Ar wefan Deall Lleoedd Cymru, cewch ddata a gwybodaeth ddaearyddol ddefnyddiol am eich tref neu eich ardal leol, i’ch helpu chi i amlygu cyfleoedd i’ch cymuned. Nid oes angen i chi fod yn arbenigwr i ddefnyddio’r wefan hon. Bydd y graffeg, y mapiau a’r arweiniad yn eich helpu i archwilio’r data y mae ei angen arnoch i wneud gwahaniaeth ble rydych chi’n byw neu’n gweithio.
Mae’r wefan yn amlygu’r lleoedd yng Nghymru sydd fwyaf tebyg i’ch pentref, tref neu gymuned. Gallai archwilio’r pethau sy’n debyg a’r cyferbyniadau rhyngddynt roi syniadau i chi ar gyfer eich lle, neu gallwch rannu enghreifftiau o’ch arfer gorau gydag eraill.
Hefyd, bydd Deall Lleoedd Cymru yn eich helpu i ddeall y berthynas rhwng eich lle chi a lleoedd eraill cyfagos. Er enghraifft, faint o bobl sy’n cymudo i’ch lle ac oddi yno bob dydd? O ble maen nhw’n dod neu i ble maen nhw’n mynd? A faint mae eich lle chi’n dibynnu ar leoedd eraill am swyddi neu wasanaethau, neu faint mae lleoedd eraill yn dibynnu arnoch chi?
Gall eich cymuned ychwanegu gwybodaeth at wefan Deall Lleoedd Cymru i helpu i lunio darlun o’r lle. Mae’r wefan yn cynnwys dolenni i amrywiaeth o becynnau cymorth ar gyfer creu cynllun cymunedol, cynllun lle neu archwiliad o le. Ewch i dudalennau Eich Cynlluniau ac Ymchwil i ddysgu rhagor.
Mae’r wefan hon yn cynnwys gwybodaeth am bob lle yng Nghymru sydd â 1,000 neu fwy o drigolion; dyna gyfanswm o dros 300 o leoedd. Gallwch hefyd ddarganfod ystadegau ar gyfer ardaloedd daearyddol o fewn trefi, pentrefi ac ardaloedd gwledig ar dudalen y Map Cymdogaeth. Rydym wedi penderfynu pa wybodaeth i’w chynnwys a’i hepgor ar sail y data dibynadwy o safon sydd ar gael a sgyrsiau gyda darpar ddefnyddwyr.
Os ydych chi’n byw mewn tref neu gymuned sydd â llai na 2,000 o bobl, fe sylwch fod llai o ddata ar gael nag ar gyfer lleoedd mwy. Darllenwch fwy am ddata a’n diffiniad o le fan yma.
Pam mae trefi a chymunedau Cymru o ddiddordeb i ni?
Mae cyfran sylweddol o bobl yng Nghymru yn byw mewn trefi a chymunedau bychain. Yn rhy aml, fodd bynnag, mae polisi cyhoeddus yn esgeuluso lleoedd o’r fath. Er bod cyllid wedi’i dargedu yn bodoli ar gyfer rhanbarthau dinesig a datblygu gwledig, does dim byd penodol i drefi. Hefyd, mae diffyg data am drefi, ar gael mewn un lleoliad hawdd ei ddefnyddio, sy’n gallu cael ei ddefnyddio i lywio datblygiad polisi ac i ddarparu tystiolaeth o arfer da presennol.
Prosiect cydweithredol yw Deall Lleoedd Cymru, a'i nod yw creu gwefan y bydd pobl yn mynd ati fel dewis cyntaf er mwyn cael gwybodaeth ystadegol am drefi a chymunedau Cymru.Ariennir y prosiect tan fis Rhagfyr 2020, ond bydd y wefan yn parhau i gael ei diweddaru am gyfnod hwy.
Mae Ymddiriedolaeth Carnegie y Deyrnas Unedig a’r Sefydliad Materion Cymreig wedi bod yn gweithio gyda chynrychiolwyr o’r sectorau cyhoeddus a phreifat ac o’r trydydd sector, ac maent wedi ymgynghori â phobl ledled Cymru er mwyn creu cynllun ar gyfer y wefan. Ariennir datblygiad y wefan ei hun gan Carnegie a Llywodraeth Cymru. Mae’r wefan wedi’i hadeiladu gan dîm dan arweiniad staff o Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) ym Mhrifysgol Caerdydd, gyda gwaith dadansoddi a phrosesu data ychwanegol yn cael eu darparu gan y Centre for Local Economic Strategies.
Yn ogystal, siapiwyd y wefan gan grŵp traws-sector craidd o bobl â buddiant ac is-grŵp o arbenigwyr data. Rydym yn ddiolchgar iawn i aelodau’r grwpiau hyn am roi o’u hamser, eu hegni a’u harbenigedd i brosiect Deall Lleoedd Cymru, ac am eu cefnogaeth barhaus. Daw aelodau’r grwpiau o: Brifysgol Aberystwyth; bwrdd ymddiriedolwyr Sefydliad Bevan; yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau; Chris Jones Regeneration; Comisiwn Dylunio Cymru; Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru; Cyngor Sir Fynwy; y Swyddfa Ystadegau Gwladol; Un Llais Cymru; Prifysgol Stirling; Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru; y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi a’r adran Cartrefi a Lleoedd yn Llywodraeth Cymru.
Mae Deall Lleoedd Cymru yn defnyddio amrywiaeth o setiau data o sawl ffynhonnell. Mae pob newidyn, ynghyd â dolen at y ffynhonnell, wedi’u rhestru yn y Fethodoleg. Mae’r setiau data hyn wedi’u defnyddio yn unol â’r trwyddedau sydd wedi’u rhestru isod.
Mae Deall Lleoedd Cymru yn cynnwys gwybodaeth sector cyhoeddus sydd wedi'i thrwyddedu o dan Drwydded Llywodraeth Agored v3.0 , gan gynnwys data Cofrestrfa Tir EM © Hawlfraint y Goron a hawliau cronfa ddata 2019.
Mae rhai o haenau mapio Llywodraeth Cymru, sydd ar gael trwy Lle, ar gael trwy drwydded PSMA Arolwg Ordnans Llywodraeth Cymru © Hawlfraint y Goron a hawliau cronfa ddata 2019 Arolwg Ordnans 100021874.
Rhoddir trwydded ddiddymadwy, anghyfyngedig a heb freindal i chi i weld y data trwyddedig at ddibenion anfasnachol am y cyfnod y mae ar gael gan Lywodraeth Cymru. Ni chewch gopïo, is-drwyddedu, dosbarthu na gwerthu unrhyw ran o’r data hwn i drydydd partïon mewn unrhyw ffurf. Yr Arolwg Ordnans fydd yn cadw’r hawliau trydydd parti i orfodi amodau’r drwydded hon.
Defnyddir data Point X, neu Points of Interest i gael cyfrif o fusnesau fesul tref. © Hawlfraint y Goron a hawliau cronfa ddata 2019 PointX Ltd a Landmark Information Group. Arolwg Ordnans Hawlfraint y Goron 2019. Cedwir pob hawl.
Darparwyd data ar y nifer sy’n pleidleisio o’r gan y Comisiwn Etholiadol. ©Hawlfraint y Goron a hawliau cronfa ddata 2019.
Mae ffiniau daearyddol wedi’u darparu gan yr Arolwg Ordnans. Mae’n cynnwys data Arolwg Ordnans © Hawlfraint Goron a hawliau cronfa ddata 2019. Darparwyd y mapiau sylfaen gan OpenStreetMap ©
Mae Deall Lleoedd Cymru / Understanding Welsh Places yn nod masnach cofrestredig.