Cwestiynau Cyffredin

  1. Ble mae fy nhref/lle?
  2. Sut mae lleoedd wedi’u mapio a’u diffinio ar gyfer Deall Lleoedd Cymru?
  3. Pwy ysgrifennodd y disgrifiad o’m lle?
  4. Rwy’n byw ger y ffin. A fydd Deall Lleoedd Cymru yn dweud wrthyf am berthynas fy nhref neu bentref â lleoedd dros y ffin yn Lloegr?
  5. Ond nid dyna sut rydw i’n sillafu enw fy lle!
  6. A fydd Deall Lleoedd Cymru’n cael ei ddiweddaru pan gyhoeddir data newydd?
  7. A allaf i ymddiried yn y data hwn ar Ddeall Lleoedd Cymru?
  8. Pam na allaf i ddod o hyd i’r data rydw i’n chwilio amdano?
  9. Pa wybodaeth sydd i ddod yn y dyfodol ar Ddeall Lleoedd Cymru?
  10. Ble arall ’alla i fynd i chwilio am ddata am fy lle?
  11. Ble gallaf i gael gwybodaeth am wasanaethau yn fy ardal?
  12. A allaf i ddefnyddio Deall Lleoedd Cymru i ddatblygu cynllun lle?
  13. Mae gennyf wybodaeth ddefnyddiol am fy lle. A alla’ i ei rhannu ar Ddeall Lleoedd Cymru?
  14. Beth yw’r gwahaniaeth rhwng Proffilio Lleoedd a Deall Lleoedd Cymru
  15. Pwy sy’n gyfrifol am Ddeall Lleoedd Cymru?
  1. Ble mae fy nhref/lle?

    Mae Deall Lleoedd Cymru yn cynnwys gwybodaeth am bob lle yng Nghymru sydd â mwy na 1,000 o drigolion. Os yw eich pentref, eich tref neu eich dinas yn gartref i 1,000 neu fwy o bobl, dylech ddod o hyd i wybodaeth am y lle fan yma. Nid yw lleoedd sydd â llai na 1,000 o drigolion yn cael eu cynnwys ar y wefan gan nad oes data dibynadwy o ansawdd da ar gael yn gyffredinol ar gyfer pentrefi a chymunedau o’r maint hynny.

    Os ydych chi’n byw mewn lle sydd â rhwng 1,000 a 2,000 o bobl, fe sylwch fod llai o ddata ar gael ar gyfer eich tref neu eich cymuned nag ar gyfer lleoedd mwy. Os ydych yn byw mewn lle sydd â mwy na 1,000 o drigolion, ond ni allwch ddod o hyd iddo, gall fod yn un o’r nifer bach o leoedd sy’n cael eu hystyried yn rhan o le mwy, sydd gerllaw.

  2. Sut mae lleoedd wedi’u mapio a’u diffinio ar gyfer Deall Lleoedd Cymru?

    Mae pentrefi, trefi a dinasoedd wedi’u nodi, a’u ffiniau wedi’u diffinio, gan ddefnyddio’r ardaloedd adeiledig cyffiniol a fapiwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer Cyfrifiad 2011. Rydym wedi dewis defnyddio ardaloedd adeiledig cyffiniol oherwydd bod data ystadegol ar gael ac i sicrhau ein bod yn defnyddio diffiniad cydnabyddedig a thryloyw. Mae ardaloedd adeiledig cyffiniol hefyd yn helpu i osgoi uno trefi a phentrefi sy’n ffinio, ond sy’n lleoedd gwahanol yn eu rhinwedd eu hunain (yng nghymoedd de Cymru, er enghraifft). Nid yw ffiniau ardaloedd adeiledig cyffiniol yn cyfateb i ffiniau wardiau etholiadol, felly i bobl sydd wedi arfer delio â ffiniau wardiau ac ystadegau, gallai’r diffiniadau o’r lleoedd a gynrychiolir ar y wefan hon edrych yn wahanol iawn.

  3. Pwy ysgrifennodd y disgrifiad o’m lle?

    Lle bynnag y bo’n bosibl, rydym wedi gofyn i bobl sy’n byw mewn lle ysgrifennu’r disgrifiad ohono ar gyfer Deall Lleoedd Cymru. Gan amlaf, mae’r testun wedi’i ddrafftio gan gynghorau tref neu gymuned. Mae tîm Deall Lleoedd Cymru wedi golygu rhai o’r disgrifiadau fel bod y naws yn gyson ar draws y wefan. Os ydych chi o’r farn bod rhywbeth o’i le ar y disgrifiad o’ch lle, neu ar goll ohono, cysylltwch â ni.

  4. Rwy’n byw ger y ffin. A fydd Deall Lleoedd Cymru yn dweud wrthyf am berthynas fy nhref neu bentref â lleoedd dros y ffin yn Lloegr?

    Os ydych chi’n byw ger y ffin â Lloegr, bydd y wybodaeth ar y wefan hon am deithiau gan gymudwyr ac ymwelwyr â’ch lle ac ohono yn cynnwys teithiau poblogaidd i, ac o, gyrchfannau dros y ffin. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, nid yw’r asesiad o’r gydberthynas ar gyfer eich lle yn ystyried ei berthynas â lleoedd dros y ffin, ei ddibyniaeth arnynt na’r ddarpariaeth gwasanaethau ar gyfer y lle dros y ffin. Rydym yn gwybod bod deall y perthnasoedd hyn yn rhan bwysig o ddeall lleoedd ger y ffin. Mae Deall Lleoedd Cymru yn adnodd sy’n datblygu a’n gobaith yw ychwanegu dadansoddiad o berthnasoedd trawsffiniol at y wefan yn y dyfodol agos.

  5. Ond nid dyna sut rydw i’n sillafu enw fy lle!

    Mae enwau Saesneg pentrefi, trefi a dinasoedd ar Ddeall Lleoedd Cymru yn dod o restr a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer cyflwyno gwybodaeth, fel data’r Cyfrifiad. Daw’r enwau lleoedd Cymraeg ar y wefan o swyddfa Comisiynydd y Gymraeg. Lle y bo’n bosibl, os defnyddir sillafiad neu enw gwahanol yn lleol, rydym wedi newid ein sillafiad. Fodd bynnag, os ydych chi o’r farn ein bod wedi cael enw’n anghywir, cysylltwch â ni.

  6. A fydd Deall Lleoedd Cymru’n cael ei ddiweddaru pan gyhoeddir data newydd?

    Bydd. Lle y bo’n bosibl, rydym wedi adeiladu Deall Lleoedd Cymru gan ddefnyddio technoleg (APIs) sy’n galluogi gwybodaeth ystadegol i ddiweddaru’n awtomatig pan gyhoeddir data agored newydd rywle arall. Lle nad yw’r diweddaru awtomatig hwn yn bosibl, rydym yn ymroi i fonitro data newydd, perthnasol a gyhoeddir a diweddaru setiau data presennol cyn gynted ag y bo’n ymarferol.

  7. A allaf i ymddiried yn y data hwn ar Ddeall Lleoedd Cymru?

    Bydd. Mae mwyafrif y setiau data wedi’u cyhoeddi rhywle arall fel ystadegau swyddogol, sy’n golygu eu bod yn dilyn egwyddorion dibynadwyedd, ansawdd a gwerth. Os defnyddiwyd unrhyw ffynonellau nad ydynt yn ystadegau swyddogol, bydd ein dadansoddwyr wedi sicrhau bod y data o safon ddigonol i’w ddefnyddio wrth wneud penderfyniadau. Mae prif ystadegydd Llywodraeth Cymru wedi bod yn cynghori ar y gwaith hwn ac arweiniwyd datblygiad y wefan gan arbenigwyr ar ddata daearyddol a chymdeithasol o Brifysgol Caerdydd.

  8. Pam na allaf i ddod o hyd i’r data rydw i’n chwilio amdano?

    Rydym wedi gwneud penderfyniadau ynghylch pa wybodaeth i’w chynnwys ar y wefan a beth i’w hepgor yn ôl y data dibynadwy, o ansawdd da, sydd ar gael ac mewn ymateb i sgyrsiau â darpar ddefnyddwyr. Oherwydd bod rhywfaint o’r dadansoddiad ar wefan Deall Lleoedd Cymru (teipoleg lle, asesiadau cydberthynas ac amlygu lleoedd tebyg) yn cynnwys cymharu lleoedd, mae’n rhaid bod unrhyw ddata sydd wedi’i gynnwys ar y safle ar gael ar gyfer Cymru gyfan. Mae’n bosibl y gwyddoch am set ddata sydd heb ei chynnwys gan na wnaeth fodloni’r gofynion uchod. Mewn rhai achosion, mae data yn bodoli, ond cwmnïau preifat sy’n ei ddal ac nid yw ar gael i’w gyhoeddi’n agored. Nid yw data yn y categori hwn yn ymddangos ar Ddeall Lleoedd Cymru.

    Gwaith ar y gweill yw gwefan Deall Lleoedd Cymru hefyd. Byddwn yn diweddaru’r wefan ac yn ychwanegu at yr hyn sydd ar-lein i ymateb i adborth gan ddefnyddwyr ac argaeledd gwybodaeth ystadegol a daearyddol am leoedd yng Nghymru. Rydym yn croesawu eich sylwadau am y wefan.

    Gallwch ychwanegu data sy’n ymwneud yn benodol â’ch trefn neu’ch cymuned chi at wefan Deall Lleoedd Cymru. Gweler Cwestiwn 12 (isod) i gael rhagor o wybodaeth.

  9. Pa wybodaeth sydd i ddod yn y dyfodol ar Ddeall Lleoedd Cymru?

    Bydd setiau data ychwanegol yn cael eu rhoi ar y wefan yn 2020. Rydym yn gweithio ar ganfod data am yr amgylchedd, fel mynediad at fannau gwyrdd trefol ac ansawdd yr aer, ynghyd â gwybodaeth am niferoedd y bobl sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol a chwaraeon, ac am fynediad at wasanaethau.

  10. Ble arall ’alla i fynd i chwilio am ddata am fy lle?

    Dyma rai gwefannau a sefydliadau sydd hefyd yn cadw data agored am leoedd yng Nghymru:

    StatsWales yw porth data Llywodraeth Cymru ac mae’n cynnwys cyfoeth o ddata ystadegol ar gyfer daearyddiaethau ystadegol bach.

    Porth Daear Lle yw menter ar y cyd Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru. Yma, cewch ddata a gwybodaeth, gan gynnwys data wedi’i fapio a delweddu, yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau, gyda ffocws penodol ar yr amgylchedd

    Trwy wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, gallwch gael at amrywiaeth eang o ystadegau swyddogol am Gymru a gweddill y Deyrnas Unedig.

    Gall defnyddwyr Porth Data WISERD chwilio, darganfod, mapio a lawrlwytho data ymchwil economaidd-gymdeithasol yn ymwneud â Chymru

  11. Ble gallaf i gael gwybodaeth am wasanaethau yn fy ardal?

    Understanding Welsh Places isn’t a contacts book or list of local services, but there are other websites that provide this information:

    Infoengine yw cyfeiriadur gwasanaethau’r trydydd sector yng Nghymru. Os ydych chi’n chwilio am wasanaethau gwirfoddol neu gymunedol yn eich ardal, dyma le da i ddechrau.

    Dewis Cymru yw’r man i gael gwybodaeth am les yng Nghymru ac mae’n cynnwys gwybodaeth am sefydliadau a gwasanaethau lleol perthnasol.

    Mae 4theRegion yn sefydliad aelodaeth annibynnol sy’n helpu i ysgogi newid yn ne-orllewin Cymru.

  12. A allaf i ddefnyddio Deall Lleoedd Cymru i ddatblygu cynllun lle?

    Mae Deall Lleoedd Cymru yn cynnig gwaelodlin ddefnyddiol i drefi, lleoedd neu gymunedau sydd ar fin datblygu cynllun lle. Gall y data helpu pobl i ddeall anghenion lle a gall gychwyn sgyrsiau drwy gysylltiadau wyneb yn wyneb a dulliau ansoddol eraill. Hefyd, mae’r data’n darparu meincnod ar gyfer gwirio sut mae cynlluniau lle yn gwneud gwahaniaeth i gymunedau a ph’un a yw buddsoddi yn cael effaith uniongyrchol.

    Cewch ddolenni i dempledi ac arweiniad amrywiol ynghylch creu cynlluniau lle a chynlluniau cymunedol ar dudalen Archwilio Lleoedd y wefan hon.

  13. Mae gennyf wybodaeth ddefnyddiol am fy lle. A alla’ i ei rhannu ar Ddeall Lleoedd Cymru?

    Os gwelwch yn dda! Yn ogystal â darparu data ystadegol am leoedd yng Nghymru ar y wefan hon, rydym am gynnwys gwybodaeth ansoddol ac ymchwil ar lefel fwy lleol sy’n ategu’r data meintiol. Ewch i dudalen Archwilio Lleoedd i wybod rhagor am sut i anfon eich cynlluniau lle, cynlluniau cymunedol, archwiliadau o le a gwybodaeth ategol arall atom ni. Yn ogystal, mae’r dudalen hon yn cynnwys dolenni i dempledi ac adnoddau ar gyfer cynllunio cymuned a chynllunio lle.

  14. Beth yw’r gwahaniaeth rhwng Proffilio Lleoedd a Deall Lleoedd Cymru

    Mae yna wahaniaethau mawr rhwng y wefannau data yma a disgwyliwn ddefnyddwyr i ddewis yr un sydd yn cyrraedd ei gofynion orau. Mae Profiling Places Wales yn cefnogi awdurdodau lleol, Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ac eu partneriaid i gynllunio a darparu gwasanaethau ac i ddeall sut mae llefydd yn newid dros amser. Mae Deall Lleoedd Cymru (DLlC) yn adnodd cyhoeddus i’r cyhoedd ac i grwpiau cymunedol. Mae gan DLlC haen ychwanegol o ddadansoddiad sydd yn galluogi llefydd i adnabod llefydd eraill sydd yn debyg iddyn nhw drwy ddadansoddiad clwstwr.

  15. Pwy sy’n gyfrifol am Ddeall Lleoedd Cymru?

    Daeth y syniad gwreiddiol ar gyfer y wefan o Ymddiriedolaeth Carnegie UK. Fe’i hysbrydolwyd gan lwyddiant gwefan bresennol Understanding Scottish Places. Mae Carnegie a’r Sefydliad Materion Cymreig wedi gweithio gyda chynrychiolwyr o’r sectorau cyhoeddus a phreifat ac o’r trydydd sector, ac maent wedi ymgynghori â phobl ledled Cymru er mwyn creu cynllun ar gyfer y wefan. Ariennir datblygiad y wefan ei hun gan Carnegie a Llywodraeth Cymru. Mae’r wefan wedi’i hadeiladu gan dîm dan arweiniad staff o Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) ym Mhrifysgol Caerdydd, gyda dadansoddiadau a phrosesu data ychwanegol yn cael eu darparu gan y Centre for Local Economic Strategies.

    Yn ogystal, lluniwyd y wefan gan grŵp traws-sector craidd o bobl â buddiant ac is-grŵp o arbenigwyr data. Rydym yn ddiolchgar iawn i aelodau’r grwpiau hyn am roi o’u hamser, eu hegni a’u harbenigedd i brosiect Deall Lleoedd Cymru, ac am eu cefnogaeth barhaus. Daw aelodau’r grwpiau o: Brifysgol Aberystwyth; bwrdd ymddiriedolwyr Sefydliad Bevan; yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau; Chris Jones Regeneration; Comisiwn Dylunio Cymru; Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru; Cyngor Sir Fynwy; y Swyddfa Ystadegau Gwladol; Un Llais Cymru; Prifysgol Stirling; Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru; y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi a’r adran Cartrefi a Lleoedd yn Llywodraeth Cymru.