Ble mae fy nhref/lle?
Mae Deall Lleoedd Cymru yn cynnwys gwybodaeth am bob lle yng Nghymru sydd â mwy na 1,000 o drigolion. Os yw eich pentref, eich tref neu eich dinas yn gartref i 1,000 neu fwy o bobl, dylech ddod o hyd i wybodaeth am y lle fan yma. Nid yw lleoedd sydd â llai na 1,000 o drigolion yn cael eu cynnwys ar y wefan gan nad oes data dibynadwy o ansawdd da ar gael yn gyffredinol ar gyfer pentrefi a chymunedau o’r maint hwnnw.
Os ydych chi’n byw mewn lle sydd â rhwng 1,000 a 2,000 o bobl, fe sylwch fod llai o ddata ar gael ar gyfer eich tref neu eich cymuned nag sydd ar gyfer lleoedd mwy. Os ydych yn byw mewn lle sydd â mwy na 1,000 o drigolion, ond na allwch ddod o hyd iddo, gall fod yn un o’r nifer bach o leoedd sy’n cael eu hystyried yn rhan o le mwy sydd gerllaw.
Sut mae lleoedd wedi’u mapio a’u diffinio ar gyfer Deall Lleoedd Cymru?
Mae pentrefi, trefi a dinasoedd wedi’u nodi, a’u ffiniau wedi’u diffinio, gan ddefnyddio’r ardaloedd adeiledig cyffiniol (CBUAs) a fapiwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer Cyfrifiad 2011. Rydym wedi dewis defnyddio ardaloedd adeiledig cyffiniol oherwydd bod data ystadegol ar gael amdanynt ac i sicrhau ein bod yn defnyddio diffiniad cydnabyddedig a thryloyw. Mae ardaloedd adeiledig cyffiniol hefyd yn helpu i osgoi uno trefi a phentrefi sy’n ffinio, ond sy’n lleoedd gwahanol yn eu rhinwedd eu hunain (yng nghymoedd y de, er enghraifft). Nid yw ffiniau ardaloedd adeiledig cyffiniol yn cyfateb i ffiniau wardiau etholiadol, felly i bobl sydd wedi arfer delio ag ystadegau a ffiniau wardiau, gallai’r diffiniadau o’r lleoedd a gynrychiolir ar y wefan hon edrych yn wahanol iawn.
Pwy ysgrifennodd y disgrifiad o’m lle?
Lle bynnag y bo’n bosibl, rydym wedi gofyn i bobl sy’n byw mewn lle ysgrifennu’r disgrifiad ohono ar gyfer Deall Lleoedd Cymru. Gan amlaf, mae’r testun wedi’i ddrafftio gan gynghorau tref neu gymuned. Mae tîm Deall Lleoedd Cymru wedi golygu rhai o’r disgrifiadau fel bod y naws yn gyson ar draws y wefan. Os ydych chi o’r farn bod rhywbeth o’i le ar y disgrifiad o’ch lle, neu fod rhywbeth ar goll ohono, cysylltwch â ni.
Rwy’n byw ger y ffin. A fydd Deall Lleoedd Cymru yn dweud wrthyf am berthynas fy nhref neu bentref â lleoedd dros y ffin yn Lloegr?
Os ydych chi’n byw ger y ffin â Lloegr, bydd y wybodaeth ar y wefan hon am deithiau gan gymudwyr ac ymwelwyr â’ch lle ac ohono yn cynnwys teithiau poblogaidd i gyrchfannau dros y ffin ac oddi yno. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, nid yw’r asesiad o’r rhyng-berthynas ar gyfer eich lle yn ystyried ei berthynas â lleoedd dros y ffin, ei ddibyniaeth arnynt na’r ddarpariaeth gwasanaethau ar gyfer lleoedd dros y ffin. Rydym yn gwybod bod deall y perthnasoedd hyn yn rhan bwysig o ddeall lleoedd ger y ffin. Mae Deall Lleoedd Cymru yn adnodd sy’n datblygu, a’n gobaith yw ychwanegu dadansoddiad o berthnasoedd trawsffiniol at y wefan yn y dyfodol agos.
Ond nid dyna sut rydw i’n sillafu enw fy lle!
Mae enwau Saesneg pentrefi, trefi a dinasoedd ar wefan Deall Lleoedd Cymru yn dod o restr a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer cyflwyno gwybodaeth fel data’r Cyfrifiad. Daw’r enwau lleoedd Cymraeg ar y wefan o swyddfa Comisiynydd y Gymraeg. Lle y bo’n bosibl, os defnyddir sillafiad neu enw gwahanol yn lleol, rydym wedi newid ein sillafiad. Fodd bynnag, os ydych chi o’r farn ein bod wedi cael enw’n anghywir, cysylltwch â ni.
A fydd Deall Lleoedd Cymru’n cael ei ddiweddaru pan gyhoeddir data newydd?
Bydd. Lle y bo’n bosibl, rydym wedi adeiladu Deall Lleoedd Cymru gan ddefnyddio technoleg (APIs) sy’n galluogi gwybodaeth ystadegol i ddiweddaru’n awtomatig pan gyhoeddir data agored newydd rywle arall. Lle nad yw’r diweddaru awtomatig hwn yn bosibl, rydym yn ymroi i fonitro data newydd, perthnasol a gyhoeddir a diweddaru setiau data presennol cyn gynted ag y bo hynny’n ymarferol.
A allaf i ymddiried yn y data hwn ar Ddeall Lleoedd Cymru?
Gallwch. Mae mwyafrif y setiau data wedi’u cyhoeddi yn rhywle arall fel ystadegau swyddogol, sy’n golygu eu bod yn dilyn egwyddorion penodol o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth. Os defnyddiwyd unrhyw ffynonellau nad ydynt yn ystadegau swyddogol, bydd ein dadansoddwyr wedi sicrhau bod y data o safon ddigonol i’w ddefnyddio wrth wneud penderfyniadau. Mae prif ystadegydd Llywodraeth Cymru wedi bod yn cynghori ar y gwaith hwn, ac arweiniwyd datblygiad y wefan gan arbenigwyr ar ddata daearyddol a chymdeithasol o Brifysgol Caerdydd.
Pam na allaf i ddod o hyd i’r data rydw i’n chwilio amdano?
Rydym wedi gwneud penderfyniadau ynghylch pa wybodaeth i’w chynnwys ar y wefan a beth i’w hepgor yn ôl y data dibynadwy o ansawdd da sydd ar gael, ac mewn ymateb i sgyrsiau gyda darpar ddefnyddwyr. Oherwydd bod rhywfaint o’r dadansoddiad ar wefan Deall Lleoedd Cymru (teipoleg lle, asesiadau rhyng-berthynas ac amlygu lleoedd tebyg) yn golygu cymharu lleoedd, mae’n rhaid bod unrhyw ddata sydd wedi’i gynnwys ar y wefan ar gael ar gyfer Cymru gyfan. Mae’n bosibl y gwyddoch am set ddata sydd heb ei chynnwys gan nad oedd yn bodloni’r gofynion uchod. Mewn rhai achosion, mae data’n bodoli, ond cwmnïau preifat sy’n ei ddal ac nid yw ar gael i’w gyhoeddi’n agored. Nid yw data yn y categori hwn yn ymddangos ar Deall Lleoedd Cymru.
Noder hefyd mai gwaith ar y gweill yw gwefan Deall Lleoedd Cymru. Byddwn yn diweddaru’r wefan ac yn ychwanegu at yr hyn sydd ar-lein i ymateb i adborth gan ddefnyddwyr a’r wybodaeth ystadegol a daearyddol sydd ar gael am leoedd yng Nghymru. Rydym yn croesawu eich sylwadau am y wefan.
Gallwch ychwanegu data sy’n ymwneud yn benodol â’ch tref neu’ch cymuned chi at wefan Deall Lleoedd Cymru. Gweler Cwestiwn 13 (isod) i gael rhagor o wybodaeth.
Pa wybodaeth sydd i ddod yn y dyfodol ar wefan Deall Lleoedd Cymru?
Bydd setiau data ychwanegol yn cael eu rhoi ar y wefan yn 2020. Rydym yn gweithio ar ganfod data am yr amgylchedd, fel mynediad at fannau gwyrdd trefol ac ansawdd yr aer, ynghyd â gwybodaeth am niferoedd y bobl sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol a chwaraeon, ac am fynediad at wasanaethau.
Ble arall gallaf i fynd i chwilio am ddata am fy lle?
Dyma rai gwefannau a sefydliadau sydd hefyd yn cadw data agored am leoedd yng Nghymru:
StatsCymru yw porth data Llywodraeth Cymru ac mae’n cynnwys cyfoeth o ddata ystadegol ar gyfer daearyddiaethau ystadegol bach.
Menter ar y cyd rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru yw Porth-Daear Lle yw menter ar y cyd Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru. Yma, cewch ddata a gwybodaeth, gan gynnwys data wedi’i fapio a delweddau, yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau, gyda ffocws penodol ar yr amgylchedd
Trwy wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, gallwch gael mynediad at amrywiaeth eang o ystadegau swyddogol am Gymru a gweddill y Deyrnas Unedig.
Gall defnyddwyr Porth Data WISERD chwilio, darganfod, mapio a lawrlwytho data ymchwil economaidd-gymdeithasol yn ymwneud â Chymru
Ble gallaf i gael gwybodaeth am wasanaethau yn fy ardal?
Nid llyfr cysylltiadau na rhestr o wasanaethau lleol yw Deall Lleoedd Cymru, ond mae gwefannau eraill sy'n darparu'r wybodaeth hon:
Infoengine yw cyfeiriadur gwasanaethau’r trydydd sector yng Nghymru. Os ydych chi’n chwilio am wasanaethau gwirfoddol neu gymunedol yn eich ardal, dyma le da i ddechrau.
Dewis Cymru yw’r man i gael gwybodaeth am lesiant yng Nghymru ac mae’n cynnwys gwybodaeth am sefydliadau a gwasanaethau lleol perthnasol.
Sefydliad aelodaeth annibynnol yw 4theRegion sy’n helpu i ysgogi newid yn y de-orllewin.
A allaf i ddefnyddio Deall Lleoedd Cymru i ddatblygu cynllun lle?
Mae Deall Lleoedd Cymru yn cynnig gwaelodlin ddefnyddiol i drefi, lleoedd neu gymunedau sydd ar fin datblygu cynllun lle. Gall y data helpu pobl i ddeall anghenion lle a gall gychwyn sgyrsiau drwy gysylltiadau wyneb yn wyneb a dulliau ansoddol eraill. Hefyd, mae’r data’n darparu meincnod ar gyfer gwirio sut mae cynlluniau lle yn gwneud gwahaniaeth i gymunedau a ph’un a yw buddsoddi yn cael effaith uniongyrchol.
Cewch ddolenni i dempledi ac arweiniad amrywiol ynghylch creu cynlluniau lle a chynlluniau cymunedol ar dudalen Eich Cynlluniau a’ch Ymchwil ar y wefan hon.
Beth yw’r gwahaniaeth rhwng Proffilio Lleoedd a Deall Lleoedd Cymru?
Mae gwahaniaethau pwysig rhwng y ddwy wefan ddata hyn, a byddem yn disgwyl i’r defnyddiwr ddewis yr un orau ar gyfer eu hanghenion nhw. Nod Proffilio Lleoedd Cymru yw cefnogi awdurdodau lleol, Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a’u partneriaid i gynllunio gwasanaethau a’u darparu, ac i ddeall sut mae lleoedd yn newid dros amser. Adnodd cyhoeddus ar gyfer dinasyddion a grwpiau cymunedol yw Deall Lleoedd Cymru. Mae Deall Lleoedd Cymru yn cynnwys haen ychwanegol o ddadansoddi sy’n caniatáu i leoedd penodol adnabod lleoedd eraill sydd ‘fel nhw’ gan ddefnyddio gwaith dadansoddi clystyrau.
Pwy sy’n gyfrifol am wefan Deall Lleoedd Cymru?
Daeth y syniad gwreiddiol ar gyfer y wefan o gan Ymddiriedolaeth Carnegie y Deyrnas Unedig. Fe’i hysbrydolwyd gan lwyddiant gwefan bresennol Understanding Scottish Places. Mae Carnegie a’r Sefydliad Materion Cymreig wedi bod yn gweithio gyda chynrychiolwyr o’r sectorau cyhoeddus a phreifat ac o’r trydydd sector, ac maent wedi bod yn ymgynghori â phobl ledled Cymru er mwyn creu cynllun ar gyfer y wefan. Ariennir datblygiad y wefan ei hun gan Carnegie a Llywodraeth Cymru. Mae’r wefan wedi’i hadeiladu gan dîm dan arweiniad staff o Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) ym Mhrifysgol Caerdydd, gyda gwaith dadansoddi a phrosesu data ychwanegol yn cael ei ddarparu gan y Centre for Local Economic Strategies.
Yn ogystal, siapiwyd y wefan gan grŵp traws-sector craidd o bobl â buddiant ac is-grŵp o arbenigwyr data. Rydym yn ddiolchgar iawn i aelodau’r grwpiau hyn am roi o’u hamser, eu hegni a’u harbenigedd i brosiect Deall Lleoedd Cymru, ac am eu cefnogaeth barhaus. Daw aelodau’r grwpiau o: Brifysgol Aberystwyth; bwrdd ymddiriedolwyr Sefydliad Bevan; yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau; Chris Jones Regeneration; Comisiwn Dylunio Cymru; Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru; Cyngor Sir Fynwy; y Swyddfa Ystadegau Gwladol; Un Llais Cymru; Prifysgol Stirling; Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru; y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi a’r adran Cartrefi a Lleoedd yn Llywodraeth Cymru.
Pa borwr gwe ddylwn i ei ddefnyddio i edrych ar Deall Lleoedd Cymru?
Mae modd edrych ar Deall Lleoedd Cymru drwy bob porwr gwe cyfoes, fel Microsoft Edge, Safari, Google Chrome neu Firefox. Rydyn ni’n argymell defnyddio Google Chrome neu Firefox i gael y profiad gorau.
Os cewch chi unrhyw broblemau’n defnyddio’r wefan, gwiriwch eich bod yn defnyddio’r fersiwn ddiweddaraf o’ch porwr gwe. Os bydd y problemau’n parhau, rydym yn argymell eich bod yn rhoi cynnig ar ddefnyddio porwr gwe gwahanol. Hen feddalwedd yw Microsoft Internet Explorer, a dydyn ni ddim yn argymell ei ddefnyddio i edrych ar y wefan hon.